Hanes Yr Ysgol
Agorwyd yr ysgol bresenol - "Boardschool" fel yr oedd yn cael ei galw bryd hynny - yn 1874 ar
gyfer plant o 5-14 oed ac felly y bu hyd at 1941 pan aeth y plant 11+ i Lanrwst.
Dyma lun o'r Ysgol
Dathlodd yr ysgol ei benblwydd yn 125 oed y llynedd.
Cafwyd Ddiwrnod Agored gyda amrywiaeth o weithgareddau i ddathlu'r achlysur.
Ysgrifenodd Myrddin ap Dafydd, Cadeirydd y Llywodraethwyr, yr englyn isod ar gyfer penblwydd yr ysgol.
Mae calon Bro Garmon i gyd - yma'n
byrlymu bob munud;
a daw, o ddesgiau diwyd
ysgol fach, ysgol i fyd.