Gwaith y Plant
Dyma ddarn o farddoniaeth, Mari Roberts, oedd yn fuddugol yn Eisteddfod
Gadeiriol Llanrwst Dyffryn Conwy, yn yr oedran dan 12.
Storm!
Breichiau gwan yn codi i gael reis,

A'r bol mawr fel pel yn dal yn wag.
Poeni dim am y pryfed o'u cwmpas,
Dim dillad lliwgar i wisgo,
Dwr budr, fel ffoes hefo deiliach wedi bod ynddo.
Tai bach, dim digon i ddeg yna.
Anifeiliaid yn marw, dim yn cael llawer oi fwyd.
Glaw dim wedi dod ers misoedd, tir yn sych.
Gafael yn y llwy, slaffio bwyta, digon o fwyd,
Bol ddim yn dew nac yn dennau yn llawn o fwyd.
Dim pryfed ar ein cyrff.dillad, dillad clud a lliwgar,
Dwr yn llifo drwy'r tap fel afon Conwy.
Lle i bartioedd, tai clud, gwely i orffwyso,
Cecs, silwair a gwellt i'r gwartheg ac i'r anifeiliaid eraill,
Glaw, haul, tywydd yn newid, gwair yn tyfu.