Gweithgareddau

Enillodd Tim Rygbi'r Ddraig yr ysgol y Gystadleuaeth Dalgylch eleni.
Camp go iawn gan feddwl mai dim ond 28 o blant sydd yn yr ysgol, ac yn ddigon da i roi cweir i Ysgol Bro Gwydir,
sydd hefo dros 280 o blant.
Dyma lun o'r tim:

............................................................................................................................................................................................................................


Tim Ras Gyfnewid Cymysg
Daeth Delyth, Carwyn, Trystan ac Aeron yn gyntaf yn Mapolgampau r Urdd yn y ras gyfnewid cymysg.
Llwyddodd nhw i fynd drwodd ir Sir, Wel! Cafodd yr ysgolion eraill eu malun racs yn fan honno hefyd.
Roedd Carwyn, y fo oedd yr olaf i redeg, bron iawn yn cerdded hyd y cae.
Rhedeg a Naid Hir
Cafodd Llywarch lwyddiant ym mabolgampaur cylch.
Yn yr sir cafodd ail gyda rhedeg a trydydd gyda naid hir. Da iawn fo.
.........................................................................................................................................................................................................................
Celf - Artistiaid Mewn Addysg
Mae'r ysgol wedi bod yn ffodus iawn dros y tair mlynedd diwethaf. Bu tair Artist yn yr ysgol yn weithio gyda'r plant. Bu Cyngor y Celfyddydau o gymorth mawr drwy dalu rhan helaeth o ffioedd yr artistiaid, o dan gynllun y Loteri.cewch weld lluniau o'u gwaith drwy glicio ar y llun isod.